Capel Methodistaidd Calfinaidd Llanon

Hanes Capel Llanon  

 Does dim llawer o sicrwydd pryd y cychwynnodd pregethu'r efengyl gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanon. Fe ymddengys fod yna bregethu ar fferm Morfa Mawr flynyddoedd cyn sefydlu'r Capel yn y pentref.

Gwraig weddw a arferau gerdded pob cam o'r ffordd i Langeitho i wrando ar Daniel Rowlands oedd yn byw yno'r pryd hynny.  Gan iddi symud i fyw i'r Store House yn y pentref, fe symudodd y pregethu hefyd i'w chanlyn, ac yno yn y Stores y bu'r pregethu am flynyddoedd wedyn cyn codi Capel Llanon.

 Bu dylanwad pregethu Daniel Rowlands yn gryf ar un o'i wrandawyr cyson, sef dyn a arferai fyw ar fferm Penlan, Mr John Alban, a gyda llaw mae rhai o ddisgynyddion y gwr yma yn dal i fyw yn yr ardal, ac yn dal yn gryf yn y ffydd.  Y gwr yma a fu'n gyfrifol am godi y capel cyntaf a hynny ar ei gost ei hun o £15

 Yn y flwyddyn 1762 rhoddodd brydles arno i'r cyfundeb am fil o flynyddoedd ond un, am y swm o bymtheg swllt y flwyddyn, - ond yn y flwyddyn 1843 darfu i wr o'r enw John Jones, Llwynteg - un o wyrion John Alban uchod werthu ei hawl o'r brydles i'r cyfundeb.

Ty hir a thô gwellt arno oedd y Capel cyntaf gyda'r pwlpud yn ei dalcen, a grisiau o gerrig mawrion yn arwain ir pwlpud o'r tu allan.

Yn 1797 daeth y Parch D Herbert yn Weinidog i lan y plwyf, ac yn fuan ar ôl hynny William Nathaniel Williams trwy iddo briodi a gweddw John Alban, Penlan, a bu i'r achos dderbyn sawr a maeth trwy ei wasanaeth am flynyddoedd lawer.  Ond yn y flwyddyn 1811, pryd yr ymneillduad gwenidogion cyntaf y cyfundeb, gadawyd y cyfundeb yn llwyr gan yr offeiriad Herbert, ac er fod Nathaniel Williams yn bregethwr parchus a grymus gyda'r Methodistiaid, aeth yr ymneillduad y gwenidogion o blith pregethwyr y corff yn ormod o brofedigaeth, a glynodd wrth gymundeb Eglwys Lloeger a wnaeth hyn hyd ddiwedd ei oes, a chollwyd ei wasanaeth.

Trwy anogaeth y Parch Eben Richards cychwynwyd yr ysgol Sul yn 1803.  Rhif y Sul cyntaf oedd 50 yn medru darllen a 5 yn sillafu gyda wyth athro.  Rhwng 1803 a 1814 cynhyddodd aelodau'r Capel a'r ysgol Sul sut gymaint y bu rhaid ehangu'r adeilad. Penderfynwyd codi'r ail Gapel, adeilad llawer yn fwy a gwerth cannoedd o bunnau.

Yn y flwyddyn 1838 ar Eglwys a dan ymweliad grymus Ysbryd Duw, ychwanegodd yr aelodau i'r fath raddfau fel bod yr adeilad eto yn rhy fach. Dyma'r cyfnod y penderfynwyd codi tâl am seddau yn y capel. Gyda teuluoedd mawr o chwech ac wyth o blant y rheol oedd un sedd i bob teulu.

Yn 1843 'roedd rhif aelodau y capel tros dau gant gyda'r ysgol Sul tros dri chant, a gwelwyd eto y byddai yn rhaid ehangu'r adeilad, ac yn 1844 codwyd y trydydd Capel am gost o £400 a chyn gorffen eu adeladu gwelwyd ei fod lawer yn rhy fach.  Yn 1859, a'r adfywiad crefyddol yn dal a'r aelodau yn cynhyddu eto, bu anesmwythder mawr ymhlith yr aelodau am nad oedd digon o le iddynt i gyd.  Yn 1865 bu rhaid helaethu'r adeilad a thynwyd y tô i lawr a chodi'r waliau yn uwch.  Adeiladwyd galeri am gost o £400.

Gyda phawb yn hapus a digon o le i addoli gyda'u gilydd fe gododd anesmwythder arall sef addysg y plant.  Amcan yr Eglwys sefydledig oedd cymeryd y plant o dan ei hadain, gyda plant y Capel yn  ymuno a phlant yr Eglwys yn yr ysgol ddyddiol yn yr Eglwys, ar delerau eu bont yn mynd i'r ysgol Sul hefyd. Felly roedd rhaid gweithredu ar frys, ac wedi bod yn ddigon ffodus i gael darn o dir am bris rhesymol codwyd yr ysgol am gost o £350.  Ar y darn  tir hwn y saif yr ysgol ddyddiol heddiw.  Yn ddi-au bu'r ymdrech amserol hon yn foddion i gadw perffraith rhyddid a heddwch yn yr ardal.

Bu cynnal yr ysgol hon yn fwrn ariannol mawr ar y Capel ac aethant i ddyled yn 1874.  Sefydlwyd bwrdd addysg undebol rhwng Llansantffraed a Llanbadarn Trefeglwys, gyda'r plant o'r ddwy ardal yn mynychu'r ysgol yn Llanon, a derbyniau'r capel £8 y flwyddyn o ardraeth oddi wrth y bwrdd.

Yn 1878 daeth gorchymyn o'r bwrdd addysg fod rhaid i holl blant yr ardal gael yr un addysg ac yn yr un adeilad.  Gan fod yr adeilad yn Llanon yn newydd a'n ddigon mawr penderfynwyd ei werthu i'r bwrdd addysg am £300.  Felly daeth y ddyled i lawr o £320 i £20 a thrwy gymeryd calon a ffydd adeiladwyd eto adeilad y tu cefn i'r capel.  Ty tê a coach house ar y llawr isaf, a ystafell eang ar y lloft i gadw cyrddau pregethu ag ati.  Dechreuwyd adeliadu yn 1879 a gorffenwyd yn 1880, a'r holl drael yn £144, 5 swllt a 5 ceiniog a dimai. Derbynwyd arian at y gwaith o £66, 5 swllt a 5 ceiniog, ac felly 'roedd £80 yn ddyledus ar Chwefror 25ain 1881. Dyma yr adeilad a elwyr yn babell.

Rwyf wedi mynychu'r capel yma ers yn blentyn, yr oedfa a'r ysgol Sul ac wedi gweld yr aelodau sy'n mynychu'r Capel ar y Sul yn mynd yn llai o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r Capel Mawr a adeiladwyd yn 1865 lawer yn rhy fawr i'r oedfa ar y Sul bellach, ond mae'r ysgol Sul yn lewyrchus gyda tua 25 o blant yn dod yn rheolaidd.  Does na fawr o newid wedi bod ar yr adeiladau yn y blynyddoedd diwethaf, heblaw troi y coach house yn festri.

Anita Jones

   Diweddariad olaf  16/04/14        Hawlfraint & Cyfrinachol                                                                       Last updated   16/04/14        Copyright & Privacy     Webmaster